Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (268) |
Datganiad y Dirprwy Lywydd
Croesawodd y Dirprwy Lywydd Janet Haworth, yr aelod Ceidwadol
newydd dros Ranbarth Gogledd Cymru Ac fe’i gwahoddodd i
gyfarch y Siambr.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.20
3 Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 14.37
NDM5774 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru).
NDM5775 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Altaf Hussain (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Janet Finch Saunders (Ceidwadwyr).
NDM5776 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle William Graham (Ceidwadwyr).
NDM5777 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Janet Haworth (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
NDM5778 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y camau a gymerwyd mewn ymateb i’r adroddiad annibynnol ar Tawel Fan - TYNNWYD YN ÔL
Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69
Dechreuodd yr eitem am 14.37
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Canfyddiadau’r ymchwiliad i ofal cleifion ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Derbyniwyd y cynnig i gynnal dadl
frys ar ganfyddiadau’r ymchwiliad i ofal cleifion ar ward
Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y câi’r
ddadl ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn yfory, dydd Mercher 3 Mehefin,
yn syth ar ôl y cwestiynau llafar.
5 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar Blant a Phobl Ifanc yn Gyntaf: Cyflawni ein Hymrwymiad i Gyfiawnder Ieuenctid yn llwyddiannus
Dechreuodd yr eitem am 14.41
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Y diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Arbed
Dechreuodd yr eitem am 15.04
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Adroddiad o Gynnydd Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020
Dechreuodd yr eitem am 15.36
8 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cydlyniant Cymunedol - Cynnydd a Heriau
Dechreuodd yr eitem am 16.27
9 Y Rheoliadau Di-fwg (Cerbydau Preifat) 2015
Dechreuodd yr eitem am 17.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5767 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mai 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
1 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig.
10Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015
Dechreuodd yr eitem am 17.18
NDM5768 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
11Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddiant Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr
eitem am 17.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio
NDM5769 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o Reoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat
(Gofynion Hyfforddi) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol
â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mai
2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
12 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig.
12Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Cymwysterau Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.38
NDM5770 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil Cymwysterau Cymru yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) adran 2
b) atodlenni 1 a 2
c) adrannau 3 - 11
d) atodlen 3
e) adrannau 12 - 57
f) atodlen 4
g) adrannau 58 - 60
h) adran 1
i) Teitl Hir
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
13Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Daeth y cyfarfod i ben am 17.40
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2015